FC Honka 1 – 1 Dinas Bangor
Cafodd CPD Dinas Bangor ganlyniad gwych oddi cartref yn y Ffindir neithiwr, gan roi cyfle gwirioneddol iddyn nhw gyrraedd trydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Europa.
Chris Jones sgoriodd y gôl a sicrhaodd gêm gyfartal i dîm Ffordd Ffarar, a hynny wedi 58 munud o’r gêm.
Roedd Honka eisoes wedi mynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf wedi i Demba Savage rwydo dwy funud cyn yr hanner.
Roedd llawer o’r diolch am y canlyniad i olwr Bangor, Paul Smith, a arbedodd gic o’r smotyn cyn chwaraewr Aberdeen, Markus Paatelainen wedi 35 munud.
Ail gymal yn Wrecsam
Mae’r sgôr yn arbennig o arwyddocaol gan i Fangor sgorio gôl oddi cartref gwerthfawr sy’n golygu bod gêm ddi-sgôr yn ddigon iddyn nhw yn yr ail gymal.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Iau nesaf.
Tîm FC Honka: Tuomas Peltonen, Sampo Koskinen, Ville Koskimaa, Henri Aalto (Nicholas Otaru ’79), Tapio Heikkila, Markus Paatelainen (Jussi Vasara ’65), Demba Savage, Rasmus Schuller, Hermanni Vuorinen (Konsta Rasimus ’71), Jaakko Lepola, Jami Puustinen
Tîm Bangor: Pau Smith, David Morley, Peter Hoy, Mike Johnson, James Brewerton (Sion Edwards ’52), Christopher Roberts, Nicky Ward, Craig Garside, Jamie Davies (Clive Williams ’79), Eddi Jebb (Alan Bull ’61), Chris Jones