Mae yna ddyfalu mawr y bydd Prif Weinidog Awstralia Julia Gillard, sydd o’r Barri yn wreiddiol, yn galw etholiad yn y wlad yfory.
Mae’n rhaid cynnal etholiad cyn diwedd y flwyddyn ac mae’r arweinydd newydd yn gwneud yn dda yn y polau piniwn ar hyn o bryd.
Yn ôl ffynonellau o fewn y Blaid Lafur fe fydd Julia Gillard yn mynd i weld Llywodraethwr Cyffredinol Awstralia, Quentin Bryce, yfory.
Hi yw cynrychiolydd y Frenhines yn Awstralia ac ati hi y bydd y Prif Weinidog yn mynd er mwyn diddymu’r senedd.
Ddoe fe addawodd Julia Gillard y byddai ei holynydd Kevin Rudd yn cael swydd flaenllaw yn y Cabinet pe bai hi’n ennill yr etholiad nesaf.
Cymerodd Julia Gillard yr awenau fel arweinydd y Blaid Lafur ar ôl herio arweinyddiaeth Kevin Rudd tair wythnos yn ôl.