Mae ymchwilwyr wedi dod o hyd i ogof llawn ffosiliau creaduriaid 15 miliwn mlynedd oed sy’n ymdebygu i’r cangarŵ.

Daethpwyd o hyd i 26 penglog o greadur “maint dafad”, ond sydd â chrafangau anferth, mewn ogof yn Awstralia.

Un damcaniaeth ydi bod y creaduriaid wedi disgyn i’r ogof drwy dwll yn y llawr oedd wedi ei guddio gan lystyfiant a heb fedru dianc.

“Mae’n hynod o gyffrous i ni,” meddai’r ymchwilydd Mike Archer o Brifysgol New South Wales.

“Mae’n ddarlun o oes nad oedden ni’n gwybod dim byd amdani o’r blaen. Dyma rai o’r creaduriaid mwyaf rhyfedd y mae o’n bosib eu dychmygu.”

Roedd dod o hyd i gymaint o’r creaduriaid, sydd wedi ei galw yn o’r enw Nimbadon lavarackorum., gyda’i gilydd yn awgrymu eu bod nhw’n symud mewn un twr fel y cangarŵ, meddai.

Roedd y penglogau hefyd yn cynnwys babanod yng nghodenni eu mamau, gan awgrymu bod y creaduriaid hefyd yn datblygu fel y mae’r cangarŵ heddiw.