Mae cwch a gafodd ei gladdu dwy ganrif yn ôl yn Efrog Newydd wedi ei dyllu i’r wyneb am y tro cyntaf ar safle ymosodiadau 9/11.
Cafodd y cwch ei gladdu dwy ganrif yn ôl fel malurion er mwyn ymestyn ynys Manhattan allan i afon Houston.
Daethpwyd o hyd i’r cwch wrth gloddio 20 troedfedd dan wyneb y stryd ar safle ‘Ground Zero’ y ddinas.
Roedd jac codi baw yn y broses o dyllu lle parcio pan darodd y cwch 32 troedfedd o hyd. Mae haneswyr yn dweud bod y llong yn dyddio o’r 1700au.
Roedd o eisoes wedi gweld ei ddyddiau gorau erbyn iddo gael i ddefnyddio yn 1810 er mwyn ymestyn glannau Manhattan.
Sylwodd yr archeolegydd Molly McDonald ar siâp ffrâm y cwch yn y mwd bore dydd Mawrth. Erbyn hyn maen nhw wedi ei dyllu o i fyny o’r safle ble y bydd Canolfan Masnach y Byd newydd yn cael ei adeiladu.
“Dyma ben draw beth fyddai rhywun yn disgwyl dod o hyd iddo fan hyn,” meddai. “Mae o’n gyffrous iawn.”
Roedd y llong wedi ei ddiogelu am ddegawdau gan y dŵr o’i amgylch, ond cyn gynted ag y daeth y pren i gyswllt gydag ocsigen dechreuodd ddirywio.