Fe fydd miloedd o bobol ifanc yn colli’r hawl i gael eu talu am aros yn yr ysgol neu goleg.
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg ddoe y bydd yn torri ar daliadau’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb ond y bobol ifanc o gefndiroedd tlota’.
Yn ôl Leighton Andrews, roedd costau’r cynllun wedi codi o £29 miliwn i £33 miliwn mewn blwyddyn a doedd rhannau o’r cynllun ddim yn cyflawni’i amcanion.
Y nod oedd annog rhagor o bobol ifanc rhwng 16 ac 18 oed i aros ym myd addysg ond, yn ôl y Gweinidog, doedd yr arian ddim yn effeithio ar benderfyniadau’r rhan fwya’ ohonyn nhw.
Roedd y dystiolaeth yn dangos eu bod yn cael yr effaith fwya’ ar fechgyn, pobol ifanc o leiafrifoedd ethnig a’r rhai o’r cartrefi tlota’.
Dileu taliadau
Yr unig daliadau sy’n aros yw rhai o £30 yr wythnos i bobol ifanc o gartrefi gydag incwm o lai na £21,885 y flwyddyn.
Fe fydd taliadau o £20 a £10 i deuluoedd ychydig mwy cefnog yn cael eu dileu, ynghyd â thaliadau bonws achlysurol o £100.
Yn ôl datganiad ysgrifenedig gan Leighton Andrews, roedd angen crynhoi’r adnoddau lle’r oedden nhw’n cael mwya’ o effaith.
Llun: Leighton Andrews