Mae cwmni olew BP wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw wedi llwyddo i atal olew rhag gollwng i Gwlff Mecsico ar ôl gosod cap newydd ar y bibell yno.

Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni lwyddo i atal yr olew rhag gollwng ers ffrwydrad platfform Deepwater Horizon ar 20 Ebrill.

Fe fydd y cwmni yn parhau i gadw llygad ar y bibell am y 48 awr nesaf gan obeithio nad ydi’r olew yn gollwng yn rywle arall.

Dim ond ateb dros dro yw’r cap ac mae BP yn y broses o dyllu dwy ffynnon olew arall fydd yn dargyfeirio’r olew o’r bibell sy’n gollwng i bibell newydd.

“Unwaith maen nhw’n tyllu’r ffynhonnau newydd fe fydden nhw’n llenwi’r ffynnon yma gyda mwd a choncrit,” meddai pennaeth Gwylwyr y Glannau’r Unol Daleithiau, Thad Allen.

Ond mae yna bryder o hyd y bydd rhaid gadael i’r olew ollwng eto wrth i dymor corwyntoedd Gwlff Mecsico agosáu.

Ar hyn o bryd mae’r olew o’r cap yn cael ei gasglu gan longau ar yr wyneb ond byddai’n rhaid eu symud nhw pe bai storm ddifrifol yn symud drwy’r ardal.