Roedd yna ddathlu yn Derry yng Ngogledd Iwerddon ar ôl iddi gael ei dewis yn Ddinas Diwylliant gynta’r Deyrnas Unedig.

Roedd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, y gweriniaethwr Martin McGuinnes, hyd yn oed yn croesawu’r teitl Prydeinig a fydd yn denu digwyddiadau celfyddydol mawr i’r ardal yn 2013.

“Mae hyn yn anrheg i gefnogwyr heddwch,” meddai. “Mae hyn yn newyddion ffantastig i’r ddinas a’r rhanbarth i gyd. Dw i’n falch ofnadwy o’r hyn sydd wedi’i gyflawni.”

Ar un adeg Martin McGuinness oedd un o arweinwyr gwrthryfelwyr yr IRA yn yr ardal ac fe ddaw’r newyddion ychydig wythnosau ar ôl i ymchwiliad mawr feio’r fyddin am gyflafan Bloody Sunday yn y ddinas yn 1972.

Does dim arian llywodraeth ynghlwm wrth y teitl, ond mae’n golygu y bydd gwyliau’n cael eu cynnal yno a mudiadau a busnesau’n buddsoddi yn y digwyddiadau.

Roedd Derry wedi curo dinasoedd mawr yn Lloegr – Birmingham, Norwich a Sheffield.

Llun: Derry (Gwifren PA)