Mae dyn yn Afghanistan wedi honni mai ef laddodd tri o filwyr Prydain ar ôl cael ei gythruddo gan eu hymddygiad tuag at bobol y wlad.

Fe fu farw’r Uwch-gapten James Joshua Bowman, yr Is-gapten Neal Turkington, a’r Corporal Arjun Purja Pun, yn ystod yr ymosodiad yn Rhanbarth Helmand dydd Llun.

Cysylltodd y dyn – gan ddweud mai ei enw oedd Talib Hussein – gyda’r BBC yn Kabul, gan bwysleisio nad odd o yn aelod o’r Taliban cyn yr ymosodiad.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod nhw’n ymwybodol o’r alwad, ond bod rhaid cymryd “gofal” cyn derbyn gair y Taliban.

“Dywedodd y dyn mai ei syniad o oedd saethu’r milwyr, ac nad odd o wedi cysylltu gyda’r Taliban cyn hynny,” meddai’r newyddiadurwr Dawood Azami.

“Dim ond ar ôl y saethu ymunodd o gyda’r Taliban. Yn ystod y cyfweliad 10 munud o hyd, dywedodd ei fod o’n flin gyda milwyr Prydeinig Rhanbarth Helmand.

“Cyhuddodd o’r milwyr o ladd pobol gyffredin, gan gynnwys plant.”

Mae’n debyg bod milwyr arbennig Prydain yn chwilio am Talib Hussein ar hyn o bryd.