Mae pum cwmni’n wynebu’r posibilrwydd o ddirwyon diderfyn heddiw oherwydd eu rhan yn y ffrwydrad yn storfa olew Buncefield bron bum mlynedd yn ôl.

Y ffrwydrad yn y ganolfan yn Hertfordshire oedd y mwya’ yn hanes Ewrop mewn cyfnod o heddwch – roedd yn mesur 2.4 ar raddfa daeargrynfeydd Richter ac fe gafodd ei glywed 125 o filltiroedd i ffwrdd.

Fe gafodd llawer o dai eu difrodi yn y digwyddiad ar Ragfyr 11, 2005, pan ledodd cwmwl mawr o fwg tros rannau helaeth o dde Lloegr a phan ollyngodd chwarter miliwn o alwyni o betrol.

Roedd dau gwmni – Total UK a British Pipeline – wedi pledio’n euog i gyhuddiadau yn ymwneud â llygredd a diogelwch ac fe gafwyd tri arall – TAV Engineering, Motherwell Control Systems a Hertfordshire Oil Storage – yn euog o gyhuddiadau tebyg.

Yn ôl cyfreithwyr yn ystod yr achos, roedd hi’n wyrth na chafodd neb ei ladd ac mae’r gwaith i lanhau’r safle a’r cyffiniau yn parhau.

Llun: Y fflamau wedi’r ffrwydrad yn Buncefield ( Gwifren PA)