Roedd yna broblemau ar y ffyrdd ac ar y môr neithiwr oherwydd stormydd cryf, yn arbennig yng ngogledd Cymru.

Mewn porthladdoedd fel Caergybi a Phorthmadog, roedd yna ddifrod i gychod hwylio wrth iddyn nhw gael eu taro gan y gwyntoedd a oedd yn cyd-daro gyda llanw uchel.

Fe dorrodd sawl cwch yn rhydd gan daro yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn waliau’r harbwr – fe ddywedodd un o wylwyr y glannau yn ardal Porthmadog wrth y BBC mai dyma rai o’r amgylchiadau gwaetha’ yr oedd wedi eu gweld.

Mae coed wedi cwympo ar draws ffyrdd mewn rhai mannau hefyd wrth i’r rhybuddion barhau am wyntoedd cryfion ym Môr Iwerddon.

Er hynny, y disgwyl yw y bydd y stormydd yn tawelu’n raddol yn ystod y dydd.

Llun: Harbwr Porthmadog (Skinsmoke CCA3.0)