Fe fyddai’r Blaid Lafur wedi gwneud yn well yng Nghymru pe bai wedi dilyn rhagor o bolisïau Tony Blair – meddai un o benseiri Llafur Newydd, Peter Mandelson.
Roedd y blaid yng Nghymru wedi taro’n ôl yn dda yn yr etholiad diwetha’ ond roedd y blynyddoedd cyn hynny wedi gwneud drwg, meddai’r cyn Ysgrifennydd Busnes wrth Radio Wales.
Roedd yn gwneud cyfres o gyfweliadau er mwyn tynnu sylw at ei hunangofiant, The Third Man, a gafodd ei gyhoeddi ddoe ac sydd wedi cael ei ddyfynnu ym mhapur y Times yr wythnos yma.
Fe gafodd ei holi am lwyddiant cymharol y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr etholiad diwetha’ – roedd Llywodraeth Rhodri Morgan yng Nghaerdydd wedi cadw at bolisïau mwy traddodiadol ac wedi gwrthod rhai o syniadau Llafur Newydd, yn enwedig ym maes addysg ac iechyd.
Yr union eiriau
Dyma ddywedodd Peter Mandelson:
“Yr hyn y mae fy ffrindiau yng Nghymru’n dweud yw efallai y byddai sefyllfa’r Blaid Lafur yng Nghymru yn ystod y 13 blynedd ddiwetha’ wedi bod yn well ar adegau pe bai wedi cofleidio mwy o’r hyn yr oedd Llafur Newydd yn ei wneud yn Lloegr a rhannau eraill o’r wlad.
“Dw i’n credu bod Cymru wedi taro’n ôl yn dda yn yr etholiad diwetha’ ond roedd yn gwneud hynny o sylfaen isel braidd a rhaid iddi ofyn iddi ei hun pam ei bod yn dechrau o sylfaen oedd yn is na rhannau eraill o’r wlad.”
Cic i Kinnock
Mewn cyfweliadau eraill fe ddywedodd Peter Mandelson bod Gordon Brown wedi mynd i “le tywyll” ar ôl i Tony Blair gael ei ddewis yn arweinydd y Blaid Lafur. Ar ôl hynny, meddai, roedd y Canghellor wedi troi’n ddyn “anhapus ac ymosodol”.
Roedd yna gic hefyd i’r cyn arweinydd Llafur, Neil Kinnock, ar ôl iddo ef feirniadu’r llyfr, gan amau mai’r prif bwrpas oedd tynnu sylw yn hytrach nag ychwanegu at y cofnod hanesyddol.
Yn ôl Peter Mandelson, doedd y Cymro a roddodd ei gyfle gwleidyddol mawr cynta’ iddo, ddim hyd yn oed wedi darllen y llyfr.
Llun: Peter Mandelson (Fforwm Economaidd y Byd CCA2.0)