Mae Llywodraeth glymbleidiol Prydain yn ystyried codi treth ar raddedigion er mwyn gwneud prifysgolion Lloegr yn llai dibynnol ar arian y sector cyhoeddus.
Fe fyddai hynny’n golygu na fydd myfyrwyr yn Lloegr yn cymryd benthyciad ar gyfer talu ffioedd dysgu yn y dyfodol.
Byddent yn dechrau talu treth ar ôl cael swydd, a byddai’r dreth yn ddibynnol ar faint eu cyflog, yn lle.
‘Realaeth’
Cael myfyrwyr i dalu mwy am eu haddysg yw’r “unig ffordd bosib” meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wrth siarad ym Mhrifysgol South Bank Llundain heddiw.
Bydd yn rhaid i addysg uwch yn Lloegr yn dibynnu llai ar gefnogaeth gyhoeddus a mwy ar fuddsoddiad gan y sawl sy’n “elwa ohono” meddai.
“Mae hi bron yn sicr y bydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu mwy.”
Yn dilyn ei araith, cyfaddefodd y gallai’r dreth arfaethedig olygu y bydd rhai myfyrwyr yn talu mwy na fydden nhw’n ei wneud dan yn y system ffioedd presennol.
Mae Vince Cable wedi gofyn i gyn-bennaeth y cwmni olew BP, yr Arglwydd Browne, i ymchwilio i’r syniad.