Fe allai hyd at 500 o swyddi ddiflannu dros y pedair blynedd nesaf, wrth i Gyngor Sir Powys wneud arbedion o £16 miliwn.
Yn ôl llefarydd, bydd gweithlu llawn amser y cyngor, sef tua 5,000 o bobol, yn cael ei gyfyngu 2.5% y flwyddyn hyd at 2014.
Y gobaith yw y bydd y swyddi’n diflannu heb orfod diswyddo pobol, ond nid oes modd sicrhau hynny meddai’r llefarydd wrth Golwg 360.
Mae’r cyfyngu yn rhan o gynllun pedair blynedd a gafodd ei gymeradwyo gan y cyngor cyfan heddiw.
Dywedodd y Prif Weithredwr Jeremy Patterson fod yna bwysau cynyddol ar y cyngor tra bod llai o gefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth.
Dywedodd fod pwysau cynyddol ar y gwasanaethau gofal ac addysg yn y sir yn ogystal, yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio a llai o ddisgyblion ysgol, yn ogystal â gwendid yn yr economi leol.
Oherwydd y pwysau yma bydd yn rhaid i’r cyngor arbed £16 miliwn erbyn 2014.
Ond canolbwyntio ar “dorri costau nid torri gwasanaethau” fydd canlyniad hynny, meddai.