Mae prototeip o robot a fydd yn cael ei anfon i dynnu lluniau o’r Blaned Mawrth wedi bod yn cael ei arbrofi ar draeth ger Aberystwyth.
Roedd ‘Bridget’ wedi cael ei gyrru ar draws traeth caregog Clarach, i brofi camera panoramig y PanCam a’r meddalwedd cyfrifiadurol, yn ogystal â gweld sut yr oedd yn gallu ymdopi â’r tirwedd.
Tîm o wyddonwyr o adran Gofod a Roboteg Prifysgol Aberystwyth oedd yn cynnal yr arbrawf a ddaeth i ben ddoe.
Dywedodd yr arweinydd wrth golwg360 fod popeth wedi mynd yn dda iawn, a’u bod wedi cael gwybodaeth ddefnyddiol o’r arbrawf.
Dyw traeth Clarach ddim yn edrych fel y blaned Mawrth meddai’r Athro David Barnes, ond mae’n ymarfer da wrth ddefnyddio Bridget oherwydd natur y tirwedd.
PanCam
Yr amcan yw anfon robot tebyg i Bridget â chamera i’r blaned goch yn 2018, i dynnu lluniau a cheisio darganfod arwyddion o fywyd yno.
Mae’r Athro Barnes a’i dîm yn gyfrifol am ddatblygu rhan o’r PanCam.
Mae eu gwaith yn rhan o gynllun €1 biliwn ExoMars, sy’n cael ei arwain gan Asiantaeth Gofod Ewrop, ar y cyd â NASA.