Beth sydd gan y cymeriadau plant Mr Men, Peppa Pinc a Dr Who yn gyffredin?

Maen nhw ar fin cael eu hail lansio yn yr iaith Gymraeg, ac fe fydden nhw i gyd i’w gweld ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae cyhoeddiadau Rily o Ystrad Mynach yn ail-lansio’u llyfrau Mr Men yn Gymraeg, gan ddechrau gyda chwe theitl gwahanol.

Fe fydden nhw hefyd yn lansio dau lyfr Dr Who ac un llyfr Peppa Pinc yn ystod wythnos gyntaf Awst.

Mr Men

Mae Mr Men wedi’u gweld yn Gymraeg yng nghylchgrawn Wcw yn y gorffennol, ond mae rhai yn straeon newydd wedi’u hysgrifennu gan fab Roger Hargreaves, Adam.

“Mae’r rhain yn gymeriadau clasurol sydd wedi apelio at genedlaethau o blant ac rydym wrth ein boddau i ddod a nhw yn ôl i’r iaith Gymraeg,” meddai Richard Tunnicliffe o Rily.

“Mae’r straeon newydd hyn yn rhan o ‘gyfres hud’ sy’n cynnwys dreigiau, marchogion, tywysogesau a gwrachod, ac fe fydden nhw’n rhoi mwynhad i blant o bob oed.”

Mae’r straeon wedi cael eu haddasu yn arbennig gan Mererid Hopwood.

“Roeddem wrth ein bodd pan wnaeth Mererid gytuno i wneud y llyfrau hyn,” meddai Richard Tunnicliffe

“Mae hi wedi gweithio ar ‘Croeso i’n Cragen’ a ‘Y Fuwch Goch Gota a’i Geiriau Cynta’ gan Julia Donaldson eisoes. Rydym ni wedi cael sylwadau cadarnhaol am y llyfrau ac felly roedden yn gwybod mai hi oedd y person iawn i ddod a Mr Men yn ôl. “

Fe fydd digwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn lansio’r chwe theitl newydd.

Dr Who a Peppa Pinc

Hefyd, fe fydd cyhoeddiadau Rily yn cyhoeddi dau lyfr rhyngweithiol yng nghyfres ‘Decide your destiny’ Dr. Who yn y Gymraeg, meddai Richard Tunnicliffe wrth Golwg360.

Tudur Dylan Jones yw cyfieithydd un o’r llyfrau hynny ac Elin Meek yw’r llall.

“Rydan ni’n hynod gyffrous ynglŷn â’r llyfrau Doctor Who,” meddai Richard Tunnicliffe cyn dweud ei fod wedi “bod yn ffan ers ei fod o’n fach” a bod ei “blant yn teimlo’r un fath nawr”.

Fe fydd un o’r llyfrau hyn yn cael ei lansio ddydd Llun ym mhabell Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod a’r llall yn cael ei lansio ddydd Mercher.

Bydd y cyhoeddwyr hefyd yn lansio llyfr Peppa Pinc yn y Gymraeg yn yr Eisteddfod.

“Mae’r cyfieithiadau hyn yn bethau mawr. Rydan ni’n cyfieithu’r teitlau mae’r plant yn eu hoffi”, meddai.