Mae’r actor, sgriptiwr a’r dramodydd enwog, Meic Povey, ar fin lansio ei hunangofiant, ‘Nesa Peth i Ddim’.

Ond doedd y penderfyniad i gloriannu ei fywyd ddim yn un hawdd, meddai wrth Golwg 360.

“Bues i’n cysidro am sbel wedi i’r wasg ofyn i mi,” meddai. Mae’n cyfaddef mai’r peth anoddaf oedd darganfod arddull addas i ddweud ei stori.

“Mae yna lawer o hunangofiannau allan yna, ac maen nhw’n boblogaidd iawn. Felly roeddwn i eisiau ffeindio fy arddull fy hun i adrodd yr hanes.

“Roedd e’n lot o waith,” meddai wedyn. “Fel unrhyw broses greadigol arall roedd rhaid dechrau o’r dechrau.”


Cadw dyddiaduron trwy’i oes

Mae’r awdur wedi bod yn cadw dyddiaduron ar hyd ei oes, ac mae’n cyfeirio atynt fel cymeriad ychwanegol yn y llyfr.

Maen nhw’n adrodd ei hanes fel plentyn yn Nant Gwynant, trwy gydol ei flynyddoedd gwyllt yng Nghaerdydd, hyd nes y mae’n ymgartrefu yno gyda’i wraig, “yn union sut y digwyddodd hi.”

Yn y gyfrol sonia Meic Povey am fywyd ger Beddgelert yn ystod y 1950au, pan oedd y byd, yn ôl yr awdur, yn le gwahanol iawn. Mae’n sôn hefyd am gyfnod mwyaf dylanwadol ei fywyd proffesiynol, sef ei gyfnod yn gweithio â Chwmni Theatr Cymru yn y 1960au.

Yna cawn glywed am ei helyntion yn y ddinas fawr ddrwg. Nid yw’n atal dim wrth siarad am ei berthnasau gydag actoresau enwog fel Sharon Morgan ac Olwen Rees, yn ogystal â’i storïau am smocio dôp gyda Guto Rhoslan ac yfed 25 peint gydag Alun Ffred Jones.

Cawn hefyd ei farn di flewyn ar dafod am nifer o bobl y mae wedi dod ar eu traws yn ystod ei yrfa, ond mae’n mynnu eu bod nhw yn ffrindiau iddo a’i fod yn dweud y cyfan gyda “cariad yn fy nghalon, a gobeithio mewn ffordd ddoniol”.

Bywyd a marwolaeth

Roedd Meic Povey wedi penderfynu cyn dechrau mai gyda marwolaeth ei wraig, Gwen, y byddai’n cloi ei hunangofiant.

Bu Gwen yn dioddef o gancr am dair blynedd cyn marw yn 59 mlwydd oed yn 2007.

Dywedodd wrth Golwg360 fod “ailgloriannu’r cyfnod yna yn anodd iawn. Wnaeth e ddim rhoi pleser i mi fel gweddill yr hanesion.” Ond roedd o’n benderfynol o dalu teyrnged i’r wraig fu’n gefn iddo trwy gydol ei fywyd.

Wrth sôn am ei ddewis o deitl ar gyfer yr hunangofiant, mae’n cyfeirio at gewri barddoniaeth Gymraeg fel R.S. Thomas a T.H. Parry Williams. Mae’n credu fod pawb yn cyrraedd y byd yn ddim ac yn gadael yr un fath. “Dwi ddim yn well nac yn waeth nag unrhyw un. Dwi’n dal i ddysgu.”

Yn ôl Trystan Lewis, perchennog Siop Lyfrau Lewis yn Llandudno, mae hunangofiant Meic Povey yn “chwa o awyr iach,” ac mae’r awdur yn bendant yn llwyddo i gyrraedd ei nod o adrodd ei hanes mewn ffordd ddiddorol ac mor onest â phosibl.

Meddai Meic Povey, “I mi, does dim pwynt ysgrifennu hunangofiant os nad ydych chi’n mynd i fod yn hollol onest. Dwi ‘di gwneud cannoedd o gyfweliadau ar hyd y blynyddoedd, ond mewn hunangofiant mae pobl eisiau mynd gam yn ddyfnach.”

Mae’r lansiad yn Nhafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd am 7 o’r gloch heno, a chyhoeddir y llyfr gan wasg Carreg Gwalch ar ddiwedd y mis am £7.50.