Mae’r Dreigiau wedi arwyddo cyn chwaraewr y Gleision, Robin Sowden-Taylor ar gytundeb dwy flynedd.

Bydd y chwaraewr rheng ôl, sydd wedi ennill wyth cap i Gymru, yn symud i Rodney Parade ar ôl saith blynedd gyda’r Gleision.

Bydd Sowden-Taylor yn ychwanegu at opsiynau’r Dreigiau yn y rheng ôl ac fe fydd yn cystadlu gyda Gavin Thomas am y crys rhif saith.

“Rwy’n hapus iawn i arwyddo gyda’r Dreigiau. Y prif reswm yr ydw i’n symud ydi er mwyn cael chwarae’n gyson,” meddai.

“Roedd hynny’n broblem yng Nghaerdydd a dydw i ddim wedi cyrraedd fy mhotensial llawn.

“Gyda Chwpan y Byd ar y gorwel rwy’n credu y galla’i wthio am gyfle. Yn amlwg mae Gavin Thomas yma ac mae’n chwaraewr o safon.

“Ond mae’n bwysig bod gan y rhanbarthau garfannau cryf. Mae ‘na lawer o gemau caled ac mae gan fwyafrif y timau erbyn hyn chwaraewyr talentog ym mhob safle.

“Fe gafodd y Dreigiau dymor da’r llynedd ac rwy’n edrych ‘mlaen i gael bod yn rhan ohono.”