Cadarnhawyd heddiw y bydd yr Unol Daleithiau yn ymchwilio i honiadau fod y cwmni olew BP wedi lobio am ryddhau bomiwr Lockerbie wrth geisio sicrhau cytundeb olew â Libya.
Cadarnhaodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, y byddai ymchwiliad, ar ôl i bedwar gwleidydd o Senedd y wlad ofyn amdano.
Yn ôl adroddiadau, mae BP yn cyfaddef iddyn nhw fynegi pryder wrth Lywodraeth Prydain yn 2007, am y broses araf o ddod i gytundeb ynglŷn â throsglwyddo carcharorion rhwng y Deyrnas Unedig a Libya.
Yn ôl yr adroddiadau roedd y cwmni Prydeinig yn ofni y byddai hynny’n amharu ar gytundebau drilio oddi ar arfordir y wlad.
Ond maen nhw’n gwadu chwarae unrhyw ran mewn trafodaethau yn ymwneud â’r penderfyniad i ryddhau Abdel Basset al-Megrahi.
Rhyddhau
Roedd Abdel Basset al-Megrahi wedi dychwelyd i Libya ar ôl cael ei ryddhau gan Lywodraeth yr Alban ar sail tosturi ym mis Awst 2009, gan fod meddygon wedi dweud y byddai’n marw o fewn tri mis.
Fe’i cafwyd yn euog o ffrwydro awyren dros dref Lockerbie yn 1988, gan ladd 270 o bobol – roedd y rhan fwyaf yn Americanwyr.
Yn ôl adroddiadau, mae Abdel Basset al-Megrahi yn dal yn fyw.