Mae cyngor Gwynedd wedi penderfynu “parhau gyda’r broses statudol” o gau Ysgol y Parc ger y Bala, heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Gwynedd wrth Golwg360 heddiw bod y cynghorwyr sir wedi “derbyn argymhellion yr adroddiad” ac am barhau â’r broses o gau’r cau ysgol.

Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan siom ynglŷn â’r penderfyniad.

Fe fuodd tua 80 o aelodau’r Gymdeithas yn protestio y tu allan i swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon heddiw.

Yn eu mysg roedd rhieni a phlant sy’n mynychu’r ysgol oedd yn gwrthwynebu cynlluniau’r cyngor.

Roedd y brotest yn benllanw gorymdaith saith deg milltir o Dryweryn i Gaernarfon a ddechreuodd ddydd Sul, fel rhan o brotest yn erbyn cau’r ysgol.

Mae’r mudiad yn ymgyrchu o blaid cadw’r ysgol ar agor ac arbed arian trwy ffederaleiddio ysgolion lleol yn lle.

“Roedd y niferoedd yn y brotest heddiw yn dangos yn glir gwrthwynebiad y gymuned i’r cynlluniau,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machreth.

“Byddwn ni, a’r gymuned leol, yn brwydro yn erbyn hyn bob cam o’r ffordd. Mae’n anhygoel fod Cyngor Gwynedd o bawb am danseilio cymuned Gymraeg fywiog. Mae bellach yn glir bod canlyniad y frwydr dros y Parc o bwys i bob cymuned Gymraeg.”