Mae cyn chwaraewr rygbi Cymru, Jonathan Davies wedi derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe.
Roedd y sylwebydd rygbi yn bresennol yn y seremoni graddio yn Neuadd Brangwyn y ddinas er mwyn derbyn yr anrhydedd.
Fe ddywedodd Davies wrth y myfyrwyr yno ei fod yn ddiolchgar i’r brifysgol a’i fod o’n falch iawn o gael yr anrhydedd.
“Roeddwn i’n credu bod fy niwrnodau i o dderbyn gwobrau wedi dod i ben, felly mae cydnabyddiaeth o’r byd academaidd yn golygu llawer i mi,” meddai Jonathan Davies.
Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe, David Warner, bod Cymrodoriaeth Anrhydeddus yn cydnabod y rhai hynny sydd wedi rhagori yn eu maes.
“Maen nhw’n unigolion sydd nid yn unig wedi dod a balchder iddynt hwy hunain ond hefyd i’r rhanbarth,” meddai David Warner.
Fe gafodd Jonathan Davies yrfa lwyddiannus yn chwarae’r ddwy god rygbi. Fe chwaraeodd i Gastell-nedd a Llanelli yn ogystal â helpu Cymru i orffen yn drydydd yng Nghwpan y Byd 1987 ac ennill y Goron Driphlyg yn 1988.
Yn yr un flwyddyn fe ymunodd Davies a chlwb rygbi’r gynghrair, Widnes ac aeth ‘mlaen i chwarae i Brydain Fawr. Fe gafodd ei enwi’n ‘Man of Steel’ y Rugby Football League ar gyfer tymor 1993-94.
Fe ddychwelodd i Gymru ac i rygbi’r undeb yn 1995 er mwyn chwarae tros Gaerdydd a Chymru, ac fe gafodd MBE yn 1996.
Ers gorffen ei yrfa chwarae mae Jonathan Davies wedi cael gyrfa sylwebu a chyflwyno llwyddiannus.