Bydd bron £16 miliwn yn cael ei wario ar greu pedair canolfan ymwelwyr yng ngogledd, de a gorllewin Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad heddiw.
Byddant yn cael eu sefydlu yn Sir Ddinbych; Gwynedd; Castell-nedd Port Talbot (â datblygiadau ym Merthyr Tydfil a Chaerffili yn ogystal) a Sir Benfro, gan gynnig gweithgareddau awyr agored ac antur.
Mi fydd cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardaloedd yma hefyd yn cael eu gwella.
Cafodd y buddsoddiad o £15.8 miliwn – sy’n dod yn bennaf o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop ac awdurdodau lleol – ei gyhoeddi gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, yng Nghanolfan Beicio Llandegla heddiw.
Yno, dywedodd y bydd y canolfannau yn darparu cyfleusterau o safon fyd-eang.
“A byddant yn rhoi cyfle i Gymru ddangos beth sydd ganddi i’w gynnig fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy, “ meddai.
“Er enghraifft, yma yng Nghoed Llandegla ac ar draws Gogledd Cymru, bydd beicwyr yn gallu mwynhau amgylchedd naturiol eithriadol yr ardal gan ddefnyddio cyfleusterau modern sydd o ansawdd uchel.
“Yn Eryri, bydd ymwelwyr yn gallu cael profiad o feicio mynydd o’r ansawdd uchaf, pysgota, cerdded, mynydda, ogofau a chwaraeon dŵr mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
“Ac yn Ne Cymru, byddwn yn creu rhwydwaith llwybr beicio cyffrous oddi ar y ffordd.
“Yn y cyfamser, gall yr ymwelwyr hynny sy’n edrych am gyfle i ymlacio, fwynhau gerddi hardd a hanesyddol de-orllewin Cymru.
Y canolfannau
Canolfan Beicio Gogledd Cymru
Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop: £944,951
Awdurdod Lleol Sir Dinbych: £1,274,210
Cyfanswm: £2,219,161
Canolfan Rhagoriaeth Eryri
Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop: £2,061,000
Awdurdod Lleol Gwynedd: £1,953,000
Cyfanswm: £4,014,000
Canolfan Beicio De Cymru
Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop: £2,000,000
Ffynonellau eraill: £3,020,000
Cyfanswm: £5,020,000
Canolfan ‘Un Ardd Hanesyddol’ De-orllewin Cymru
Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop: £1,900,000
Awdurdod Lleol Sir Benfro: £2,663,338
Cyfanswm: £4,563,338