Mae’r Ariannin wedi cyfreithloni priodasau i bobol hoyw heddiw – y wlad gyntaf yn Ne America i roi’r un hawliau i gyplau hoyw a chyplau heterorywiol.

Pleidleisiodd Senedd yr Ariannin o 33 o blaid a 27 yn erbyn, wrth i dri arall ymwrthod rhag pleidleisio.

Mae’r Arlywydd Cristina Fernandez yn gryf o blaid y newid felly mae o nawr yn gyfreithiol.

Daeth y bleidlais ar ôl dadl hirfaith a gorymdeithio gan filoedd o gefnogwyr a gwrthwynebwyr .

Roedd yr Eglwys Gatholig yn yr Ariannin wedi ymgyrchu yn gryf yn erbyn y newid.

Mae priodas hoyw hefyd yn gyfreithlon yn Ngwlad Belg, Canada, Gwlad yr Ia, yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, De Affrica, Sbaen a Sweden.

Mae ambell dalaith yn yr Unol Daleithiau a Mecsico hefyd yn ystyried priodas hoyw yn gyfreithlon.