Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi wfftio amheuon ynglŷn â’r cynllun i gynnal refferendwm ar ddiwygio’r sustem bleidleisio ar yr un dyddiad ag Etholiad y Cynulliad.

Fe fydd y bleidlais a’r newid i’r sustem bleidleisio amgen er mwyn ethol ASau yn cael eu cynnal ar Mai 5 y flwyddyn nesaf, er mwyn rhoi hwb i ganran y pleidleiswyr ac arbed ar gostau.

Ond mae’r dyddiad wedi cythruddo gwleidyddion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n pryderu y bydd yn taflu cysgod dros eu hetholiadau nhw.

“Rydw i wir yn ei chael hi’n anodd deall sut y bydd y dadleuon ynglŷn â dyfodol yr Alban yn diflannu dan gysgod pleidlais ar wahân, hollol glir, ie neu na, ynglŷn â phleidleisio dros ASau,” meddai Nick Clegg heddiw.

“Dydw i wir ddim yn deall beth yw sail yr honiad. Rydw i wedi siarad gyda ffrindiau a fydd yn pleidleisio yn yr Alban a dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw ddryswch o gwbl.”

Dywedodd bod tystiolaeth ledled Prydain yn awgrymu bod yr etholwyr yn gwbl fodlon wrth bleidleisio mewn nifer o etholiadau gwahanol yr un pryd.

Gwadodd hefyd bod y dyddiad wedi cael ei gynnal er mwyn “sgiwio” y bleidlais drwy ei gynnal ar yr un pryd ac y bydd etholwyr sydd wedi arfer gyda chynrychiolaeth gyfrannol yn pleidleisio.

Mae etholiadau lleol yn golygu y bydd 84% o bobol Lloegr yn pleidleisio’r un diwrnod, meddai.

Datgelodd hefyd ei fod o eisiau i Arglwyddi allu pleidleisio yn y refferendwm er gwaetha’r ffaith nad ydyn nhw’n cael pleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol.