Mae Man City wedi penderfynu y gallai ymosodwr Cymru, Craig Bellamy gael ei werthu ar ôl i David Silva ymuno o Valencia am £25m.
Er mai Bellamy oedd un o chwaraewyr gorau’r clwb y tymor diwethaf, dyw Roberto Mancini ddim yn ei ystyried yn rhan o’i gynlluniau ar gyfer y tymor newydd.
Mae perthynas fregus Bellamy gyda’r Eidalwr hefyd wedi effeithio ar benderfyniad Mancini i werthu’r ymosodwr.
Mae Bellamy wedi cael sawl ffrae gyda Mancini ers iddo olynu Mark Hughes ym mis Rhagfyr llynedd.
Fe allai Craig Bellamy naill ai aros i frwydro am ei le yn y tîm cyntaf, neu ddod o hyd i glwb arall cyn i’r tymor newydd ddechrau.
Mae Tottenham wedi dangos diddordeb yn Bellamy yn y gorffennol, ond ni fyddai Spurs yn barod i dalu’r un cyflog i’r Cymro ar hyn mae’n ei gael gyda Man City ar hyn o bryd.
Fe fydd Tottenham yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, ac fe allai hynny fod yn ddigon i berswadio Bellamy i ymuno ar gyflog is.
Roedd Craig Bellamy wedi dweud yn ddiweddar ei fod yn awyddus i chwarae i Gaerdydd cyn i’w yrfa ddod i ben.
Ond gyda phroblemau ariannol yr Adar Glas a’r ffaith eu bod nhw’n chwarae yn y Bencampwriaeth, does dim disgwyl iddo wisgo crys Caerdydd y tymor nesaf.