Mae dynes yn yr Unol Daleithiau wedi ei chyhuddo ar ôl cael damwain car wrth gael rhyw.

Roedd y ddynes wedi dweud celwydd wrth yr heddlu ynglŷn a’r ddamwain, gan ddweud bod y dyn wedi ymosod arni a dwyn y car.

Dywedodd y ddynes 23 oed ei bod hi wedi mynd ar goll yn New Jersey dydd Sul ac wedi gofyn i ddyn am gyfarwyddiadau.

Roedd hi’n honni bod y dyn wedi anelu gwn ati a’i thynnu hi allan o’r car a’i thaflu i’r llawr.

Cyfaddefodd yn ddiweddarach ei bod hi wedi gadael y dyn i mewn i’r car a caniatáu iddo yrru’r cerbyd.

Tarodd y car goeden tra’r oedden nhw’n cael rhyw wrth yrru.

Dywedodd yr heddlu bod y car wedi bod ar dân. Mae hi wedi ei chyhuddo o ffeilio cofnod anghywir gyda’r heddlu.