Mae dynes 19 mlwydd oed wedi marw ddoe ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A494 yng Nglanrafon, Corwen, meddai’r heddlu.
Dyw’r Heddlu ddim yn credu ei bod yn lleol i ardal Sir Ddinbych. Fe gafodd tri o bobl eraill eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n awyddus i siarad gyda gyrrwr cerbyd oedd yn teithio o gyfeiriad Corwen oddeutu hanner awr wedi pedwar y prynhawn ddoe.
Maen nhw’n credu ei bod yn bosibl fod y gyrrwr wedi gweld y gwrthdrawiad rhwng y car Peugot a Mondeo, ond heb stopio.
Maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio Pc Mark Lightfoot ar 101 neu 0845 607 1001.
Mae hefyd yn bosibl galw Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 neu yrru neges destun i 66767.