Mae Caerdydd wedi dweud eu bod nhw wedi cynnal cyfarfod “adeiladol” gyda chwmni Langston Corporation.
Mae gan Gaerdydd dyledion o tua £15m sydd angen eu talu ‘nôl i gwmni Langston. Un o berchnogion Langston yw cyn berchennog Caerdydd, Sam Hammam.
Roedd cadeirydd newydd y clwb, Dato Chan Tien Ghee ynghyd a chyfarwyddwr yr Adar Glas, Alan Whiteley wedi cwrdd gyda Sam Hammam ddoe
Roedd Caerdydd wedi dod i gytundeb gyda Langston dros dalu eu dyledion ‘nôl yn fisol, ac fe gychwynnodd hynny ym mis Ionawr eleni.
Ond mae’r Adar Glas hefyd yn wynebu talu dyled o £1.3m i’r adran Cyllid a Thollau a does dim hawl ganddyn nhw i brynu chwaraewyr newydd tan iddynt ddatgelu eu cyfrifon ar gyfer 2009.