Mae disgwyl i hyfforddwr Cymru, John Toshack alw ar ymosodwr Millwall, Steve Morison, i gymryd rhan yn ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Ewro 2012.
Mae gan Morison, sy’n wreiddiol o Enfield yn Llundain, wreiddiau Cymreig, ac mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn y broses o sicrhau ei fod yn gymwys i chwarae i’r tîm rhyngwladol.
Fe ddaeth Morison i’r amlwg ar ôl sgorio 23 gôl y tymor diwethaf er mwyn helpu Millwall i ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth.
Mae Toshack yn awyddus i chwarae gydag un ymosodwr, ac mae Morison, sy’n 6’2” yn cael ei ystyried yn y math o chwaraewr sydd ei angen er mwyn arwain y llinell flaen i Gymru.
Mae gan hyfforddwr Cymru opsiynau eraill yn y safle yna, gan gynnwys Ched Evans, Simon Church a Sam Vokes. Ond mae diffyg goliau yn broblem i Gymru, ac felly mae John Toshack yn awyddus i roi cyfle i Morison hefyd.
Mae disgwyl i John Toshack wylio Steve Morison yng ngêm gyntaf Millwall o’r tymor yn erbyn Dinas Bryste ar 7 Awst.