Mae cyn Gadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud wrth Golwg 360 ei fod yn credu y dylai cyrff amgylcheddol Cymru aros ar wahân.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn ceisio datblygu fframwaith amgylcheddol newydd a allai olygu uno cyrff Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth.
“Rwy’n credu y dylai’r cyrff aros ar wahân, ond eu bod nhw’n cydweithio ac yn rhannu adnoddau’n fwy effeithiol. Dyna fyddai’r opsiwn gorau yn fy marn i,” meddai John Lloyd Jones wrth Golwg 360.
“Mae’n rhaid cofio bod y cyrff yma’n gwneud gwaith amgylcheddol gwahanol iawn i’w gilydd.
“Yn sicr mae’n rhaid cydweithio’n agosach – mae yna bob tro le i wella. Ond mae’n ddigon teg bod y llywodraeth am edrych a fyddai’n fanteisiol i wneud unrhyw newidiadau.”
Dywedodd cyn gadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru mae’r peth mwyaf amlwg i rannu pe bai’r Llywodraeth yn penderfynu uno’r cyrff fyddai personél a chyllid.
Torri swyddi ‘yn anochel’
Ond mae John Lloyd Jones yn credu y byddai uno yn gymhleth iawn gan ddweud y byddai yna “broblemau dwfn” wrth greu un corff.
Dywedodd John Lloyd Jones bod rhaid cofio bod yr Asiantaeth Amgylchedd yn cynrychioli Cymru a Lloegr ac yn amlwg byddai angen rhannu’r corff yna pe bai Llywodraeth y Cynulliad am i gyrff Cymru uno. Byddai hynny yn ei dro yn codi cwestiynau ynglŷn â rhaniad cyllidol Asiantaeth yr Amgylchedd.
Pe bai’r cyrff yn uno mae John Lloyd Jones yn credu byddai bron yn anochel byddai swyddi’n cael eu torri.
Mae cyn gadeirydd Cyngor Cefn Gwlad hefyd yn poeni fod yna risg y gallai gwaith angenrheidiol y mae’r cyngor yn ei wneud yng nghymunedau Cymru ddod i ben.
Ond mae John Lloyd Jones yn credu ei fod yn bwysig iawn i waith y corff wrth annog pobol i gymryd mwy o ran yng nghefn gwlad barhau.
Ymateb y cyrff
“Mi fyddwn ni’n falch o allu rhoi help llaw i’r adolygiad. Ar adeg pan mae arian yn brin, mae cydweithio’n hanfodol er lles amgylchedd a thrigolion Cymru,” meddai Cadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad, Morgan Parry.
“Efallai y byddwn ni’n esgor ar sefydliadau mwy effeithlon a fydd yn gwarchod ac yn rheoli’r holl amgylchedd naturiol yn fwy effeithiol, er budd pawb.”
“Mae holl wasanaethau cyhoeddus Cymru yn gweithio â’i gilydd i geisio taro’r fargen orau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru,” meddai Prif Weithredwr y Cyngor Cefn Gwlad, Roger Thomas.
“Mae pwrpas yr adolygiad yn cyd-fynd yn hollol â’n hamcan – sef sicrhau y bydd lles trigolion Cymru yn cael ei ddiogelu yn yr hirdymor trwy gyfrwng y ffordd rydyn ni’n rheoli ein hamgylchedd naturiol.”
“R’y ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Cynulliad ac ein partneriaid amgylcheddol yng Nghymru ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny yn ystod yr astudiaeth yma i sicrhau bod yr holl ffactorau yn cael eu hystyried,” meddai Dr Paul Leinster, Prif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd.
“Fe fyddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar ddarparu canlyniadau i bobl a’r amgylchedd yn enwedig ar faterion megis llifogydd, newid hinsawdd, safon dŵr a gwastraff,” ychwanegodd.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi’r adroddiad yn yr hydref.