Mae lefelau troseddu wedi disgyn i’w hisaf ers 1981, er gwaetha’r dirwasgiad, datgelwyd heddiw.
Cyhoeddodd yr Arolwg Trosedd Prydeinig bod troseddu wedi disgyn 9% o 10.5 miliwn i 9.6 miliwn yn 2009/2010.
Dyma’r tro cyntaf i nifer y troseddau ddisgyn o dan 10 miliwn ers dechrau’r cofnodion. Disgynnodd troseddau yng Nghymru a Lloegr 8%, o 4.7 miliwn i 4.3 miliwn.
Dywedodd swyddogion fod yna gwymp “nodedig” mewn troseddau meddiangar, gan gynnwys lladrad, byrgleriaeth a thwyll.
Roedd yna gwymp 2% mewn twyll gyda chardiau credyd. Mae’r ffigyrau yn mynd yn groes i’r ofnau y byddai troseddau o’r fath yn cynyddu yn sgil y dirwasgiad.
Doedd yna ddim newid mawr yn y lefelau troseddau treisgar yn ystod yr un cyfnod. Serch hynny, roedd nifer y llofruddiaethau wedi digyn 6% i 615, y nifer isaf ers 1997.
Roedd 3% o gwymp mewn troseddau yn ymwneud â drylliau.