Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio ymwelwyr y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf yn erbyn nofio yn yr Afon Gwy.

Mae disgwyl tywydd poeth wrth i bobol heidio i Lanelwedd o bob cwr o’r Deyrnas Unedig. Mae’r heddlu yn disgwyl i fwy o bobol fynd i’r afon eleni.

Ond mae’r heddlu wedi galw ar y cyhoedd i ymddwyn yn gyfrifol, gan ddweud fod 50 o blant dan 16 yn boddi yn afonydd Prydain bob blwyddyn.

“Boddi ydi’r trydydd achos mwyaf cyffredin dros farwolaeth ddamweiniol ymhlith pobl ifanc,” meddai’r Heddlu.

“Er nad yw canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn mynd ati i annog pobl i nofio yn yr afon, byddwn i’n cynghori pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu diogelwch eu hunain.”