Mae Bangor wedi cael hwb cyn dechrau cymal cyntaf eu gêm ragbrofol yn erbyn Honka yn y Ffindir heno.

Roedd yna amheuon ynglŷn a ffitrwydd yr amddiffynwyr James Brewerton, Chris Roberts a Michael Johnston yn ogystal â’r chwaraewr canol cae Craig Garside.

Ond maen nhw i gyd wedi ymarfer ers cyrraedd y Ffindir ddydd Mawrth, ac fe fydd eu profiad yn allweddol wrth iddynt geisio osgoi colli i’r un tîm am yr ail dymor yn olynol.

Ond fydd yr ymosodwr Jamie Reed ddim ar gael i Fangor gan ei fod yn chwarae pêl droed yn Awstralia dros yr haf.

Fe fydd tasg anodd wynebu Bangor – mae Honka yn ail yn eu cynghrair ar hyn o bryd. Mae gyda nhw hefyd y fantais seicolegol o fod wedi maeddu Bangor 3-0 dros y ddau gymal y tymor diwethaf.

Mae ymosodwr y clwb o’r Ffindir, Hermanni Vuorinen newydd ennill ei gap cyntaf i’r tîm rhyngwladol, ac mae cyn chwaraewr Man Utd, Jami Puutinen yn brif sgoriwr Honka y tymor hwn.