Mae cyn rheolwr Watford, Brendan Rogers yn un o’r ffefrynnau i olynu Paulo Sousa yn reolwr Abertawe.
Dyw Rogers heb hyfforddi clwb ers iddo golli ei swydd fel rheolwr Reading ym mis Rhagfyr.
Ond mae’n awyddus i ddychwelyd i reoli ac mae wedi gwneud cais am y swydd wag yn Stadiwm Liberty.
Mae cadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins wedi dweud ei fod o’n credu bod Rogers yn rhannu’r un steil o bêl droed a’r clwb.
Fe gafodd Rogers ei benodi’n reolwr Watford ar argymhelliad rheolwr Chelsea ar y pryd, Jose Mourinho, ar ôl iddo ddangos ei ddoniau fel rhan o staff hyfforddi clwb Stamford Bridge.
Doedd ei amser gyda Reading ddim yn un llwyddiannus iawn, ond dyw hynny ddim wedi atal Abertawe rhag ei ystyried ef ymysg eu ffefrynnau.
Mae’n debyg bod gan Abertawe diddordeb o hyd yn Gary Speed a Billy Reid, yn ogystal â rheolwr Scunthorpe, Nigel Adkins.