Mae gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd nesaf cystadleuaeth Ugain20 ar ben ar ôl colli i Wlad yr Haf yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y Dreigiau ddechrau gwael i’r gêm gyda’r ymwelwyr yn cipio tair wiced am ddeg rhediad.

Bu rhaid i Forgannwg ddibynnu ar bartneriaeth 61 rhediad Tom Maynard a Ben Wright er mwyn cyrraedd 116-7 o ugain pelawd.

Fe gafodd y gêm eu heffeithio gan law, ac fe fu’n rhaid newid targed Gwlad yr Haf i 92 rhediad oddi ar 15 pelawd.

Sgoriodd Marcus Trescothick 54 rhediad dros Wlad yr Haf i ennill y gêm gyda 19 pêl dros ben i sicrhau eu lle ar frig y tabl.

Mae Morgannwg yn seithfed yn y tabl gyda’u gêm olaf yn erbyn Caint nos Wener.