Mae Ofcom wedi beirniadu darlledu rhanbarthol yng Nghymru gan ddweud bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y wlad ar drai.
Dywedodd Ofcom nad oedd barn gwylwyr “yn fwy cadarnhaol” ynglŷn â faint o raglenni oedd yn berthnasol i Gymru oedd yn cael eu dangos.
Dim ond un ymhob tri oedd yn hapus gyda faint o raglenni oedd yn delio’n benodol gyda Chymru oedd ar gael.
Roedd Ofcom hefyd yn dweud bod canran mwy o bobol Cymru yn credu nad oedd eu rhaglenni newyddion lleol yn gwneud jobyn da ymysg yr isaf ym Mhrydain.
Mae diffyg buddsoddiad yn golygu bod y BBC ac ITV yn gwneud llai o raglenni yng Nghymru, meddai’r rheolydd cyfryngau.
Yn ôl yr adroddiad syrthiodd allbwn BBC Cymru 15%, o 824 i 696 awr rhwng 2005 a 2009, a syrthiodd allbwn ITV ar gyfer Cymru 32%, o 497 i 340 awr, yn yr un cyfnod.
Cynyddodd nifer yr oriau o ddarlledu rhaglenni Cymraeg 27% rhwng 2005 a 2009 i 5,696 awr. Ond roedd y rhan fwyaf o’r rheini, 62%, yn ailddarllediadau.
S4C
Cynyddodd cyfanswm yr oriau o raglenni Cymraeg ar S4C Digidol 21% dros y pedair blynedd i 5,696 awr yn 2009.
Cynyddodd swm y rhaglenni Cymraeg gwreiddiol ar S4C Digidol 6% er 2008 i gyrraedd 2,095 awr erbyn 2009.
O’r cyfanswm hwn, roedd 25% yn rhaglenni Ffeithiol Cyffredinol a 15% yn rhaglenni Newyddion a Materion Cyfoes. Roedd rhaglenni Plant gwreiddiol tro cyntaf yn gyfrifol am 19% arall (400 awr).
I wylwyr rheolaidd rhaglenni Cymraeg S4C yn 2009, roedd y cyswllt DGC cryfaf â’r sianel yn parhau i ymwneud â diben 1 (Newyddion) a diben 3 (e.e. portreadu Cymru i weddill y DU).
Roedd gwylwyr rheolaidd rhaglenni Cymraeg ar S4C hefyd yn tueddu i ddweud eu bod yn ymddiried yn y sianel (77%).