Mae bachgen 11 mlwydd oed a oedd yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn llofruddiaeth honedig yn y Fflint wedi marw yn Ysbyty Alder Hay neithiwr.
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal ar gorff Patryk Wasko yn ddiweddarach.
Ymddangosodd Krystian Krysztof Rozek o’r Fflint o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug deuddydd yn ôl.
Mae o wedi’i gyhuddo o lofruddio Monika Wasko, 29 oed, o Gae Hir ac o geisio lladd y bachgen 11 oed yn ogystal â dyn 33 oed o’r un cyfeiriad.
Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.