Mae gweithwyr sy’n cloddio ar safle ymosodiadau 9/11 yn Efrog Newydd wedi dod o hyd i long 32 troedfedd sy’n debygol o fod wedi ei gladdu yn yr 18fed ganrif.

Dywedodd archeolegwyr ei fod o’n debygol bod y llong wedi ei gladdu gyda malurion eraill er mwyn ymestyn tir Manhattan ymhellach i mewn i afon Hudson.

Roedd yr archeolegwyr Molly McDonald ac A. Michael Pappalardo ar ‘Ground Zero’ bore dydd Mawrth pan ddaethpwyd o hyd i’r llong.

Mae’r darganfyddiad o bwys ond roedd angen mwy o waith ymchwil cyn penderfynu beth oedd oed y llong, medden nhw.

Fe ddaethpwyd o hyd i angor llong 100 pwys yn yr un ardal ddoe, ond dydyn nhw ddim yn siŵr a ydi o’n rhan o’r llong.