Fe fydd cau dwsin o lysoedd ynadon a phum Llys Sirol yng Nghymru’n arwain at chwalu’r syniad o gyfiawnder lleol, meddai ASau Plaid Cymru.

Maen nhw wedi galw ar y Llywodraeth yn Llundain i ailfeddwl am y cynlluniau gan eu cyhuddo o fethu ag ystyried oblygiadau ymarferol y cau.

Roedd Elfyn Llwyd a Jonathan Edwards yn cymryd rhan mewn dadl a oedd wedi ei galw gan Mark Williams, AS y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion. Roedd yntau’n protestio’n erbyn y bwriad i gau llys ynadon Aberteifi.

Dyma’r llysoedd sydd ar restr ymgynghorol y Llywodraeth:
Llysoedd Ynadon – Y Barri, Aberdar, Llwynypia, Rhydaman, Aberteifi, Llanymddyfri, Dinbych, Pwllheli, Y Fflint, Cas-gwent, Abertyleri, Y Fenni, Llangefni.
Llysoedd Sirol – Cas-gwent, Aberdar, Y Rhyl, Pontypŵl, Llangefni.

Meddai’r ASau

• Fyddai dim un llys ynadon ar ôl yn etholaeth Caerfyrddin a Dwyrain Dinefwr, yn ôl Jonathan Edwards, yr AS lleol. “Fe fydd y cau’n ddyrnod galed i’r ardal gan erydu’r ddolen rhwng y gymuned leol a chyfiawnder. Bydd y syniad o gyfiawnder lleol yn cael ei golli a thegwch yn cael ei beryglu.”

• Yn ôl Elfyn Llwyd, y bargyfreithiwr sy’n AS tros Ddwyfor Meirionnydd, fe fydd cau’r llysoedd yn gwneud “bywyd yn anodd” i’r bobol sy’n defnyddio’r llysoedd – yn ddiffynyddion, cyfreithwyr ac ynadon. Roedd yn proffwydo y byddai’r cynllun yn ddiwedd ar ynadon lleyg yng ngogledd Cymru.

• Fe fyddai cau llys ynadon Aberteifi’n ei gwneud yn anodd i bobol leol gael gafael ar gyfiawnder, meddai Mark Williams. Fe fyddai pobol yn wynebu anawsterau teithio mawr o orfod mynd i Hwlffordd neu Aberystwyth.

Llun: Llys Ynadon Rhydaman (HMCS)