Mae gwyddonydd o Iran wedi honni heddiw bod yr Unol Daleithiau wedi ei arteithio “yn gorfforol ac yn feddyliol” ar ôl iddo ddiflannu’r llynedd.

Mae Tehran wedi honni yn y gorffennol bod Shahram Amiri wedi ei gipio gan yr Unol Daleithiau am eu bod nhw’n awyddus am fanylion ynglŷn a rhaglen niwclear y wlad.

Ond mae’r Unol Daleithiau yn honni bod y gwyddonydd wedi penderfynu gadael Iran i ymuno gyda nhw, cyn newid ei feddwl a gadael ar awyren adref.

Dywedodd Washington bod Shahram Amiri, 32, wedi cysylltu gyda nhw yn addo gwybodaeth ond heb ddatgelu ryw lawer.

Wrth siarad gyda newyddiadurwyr ar ôl cyrraedd Iran, dywedodd Shahram Amiri ei fod o wedi ei gipio ar bererindod i ddinas sanctaidd Medina y llynedd.

“Cefais i fy arteithio yn gorfforol ac yn feddyliol yn y modd mwyaf llym,” meddai ym Maes Awyr Tehran, gyda’i fab saith oed ar ei lin.

“Rydw i’n ymchwilydd syml sy’n gweithio mewn prifysgol. Does gen i ddim unrhyw wybodaeth gudd.”

Honnodd hefyd bod swyddogion o Israel yn bresennol yn ystod yr arteithio a bod y CIA wedi addo $50 miliwn iddo aros yn yr Unol Daleithiau.

“Mae gen i ddogfennau sy’n profi nad oeddwn i’n ddyn rhydd yn yr Unol Daleithiau ac rydw i wedi bod dan reolaeth y gwasanaethau cudd drwy gydol yr amser,” meddai.