Fydd pobol ddim yn fodlon wynebu cyfnod o galedi ariannol os ydyn nhw’n credu bod y drefn yn annheg, meddai Archesgob Caergaint.
Yn ôl y Cymro Rowan Williams, mae pobol yn fodlon wynebu caledi er mwyn nod personol neu gymdeithasol – rhywbeth sy’n agos at eu calonnau.
“Mae derbyn caledi ariannol er mwyn rhywbeth o’r enw ‘yr economi’ yn gofyn llawer mwy, yn enwedig os nad yw’r caledi’n cael ei rannu’n deg,” meddai’r Archesgob yng nghylchgrawn y New Statesman.
Mae wedi galw hefyd am roi’r gorau i drin pobol fel “cwsmeriaid” yn fwy na dim arall. Mae hynny, meddai, yn groes i egwyddorion crefyddol.
Dadsefydlu – ‘ddim yn ddiwedd y byd’
Roedd y cyfweliad wedi ei wneud cyn cyfarfod Synod Eglwys Lloegr i drafod gwneud menywod yn esgobion ond fe ddywedodd Rowan Williams na fyddai torri’r cysylltiad rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth “ddim yn ddiwedd y byd”.
Roedd deng mlynedd o weithio gyda’r Eglwys yng Nghymru – sydd wedi ei dadsefydlu ers bron ganrif – wedi dangos bod yna fanteision, meddai.
Ond fe bwysleisiodd y byddai yn erbyn torri’r cysylltiad os oedd hynny’n cael ei wneud er mwyn cyfyngu crefydd i’r maes preifat.
Llun: Rowan Williams (Palas Lambeth)