Dylai cyfraith 100 mlynedd oed sy’n ymwneud â rhandiroedd gael ei ailwampio i’w gwneud hi’n haws i bobol dyfu eu bwyd eu hunain, cyhoeddodd pwyllgor o ACau heddiw.
Mae gan gynghorau ddyletswydd i ddarparu tir dan y Ddeddf Tyddynnod a Rhandiroedd 1908.
Ond rhybuddiodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd nad oedd y ddeddf yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol ymateb i gais am dir o fewn amser penodol.
Yn ôl yr adroddiad roedd rhai pobol yng Ngheredigion wedi disgwyl pum mlynedd am dir. Roedd un cyngor wedi dweud bod pobol yn penderfynu peidio â gwneud cais am randir ar ôl gweld maint y rhestr aros.
Dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud cais i San Steffan am y pŵer i ddiwygio’r ddeddf pe bai angen, meddai’r pwyllgor.
“Y neges allweddol sydd wedi dod o’r ymchwiliad yma ydi bod mwy a mwy o bobol yn fodlon tyfu eu bwyd eu hunain, ac felly mae angen mwy o gefnogaeth ar eu cyfer nhw,” meddai’r AC Leanne Wood, un o aelodau’r pwyllgor.
“Mae’n ein pryderu ni fod pobol yn brwydro i ddod o hyd i le ac yn gorfod mynnu bod cynghorau lleol yn gwneud eu dyletswydd.”