Roedd y llofrudd Raoul Moat wedi gofyn am gymorth seiciatrig bron flwyddyn cyn iddo ladd un dyn a saethu dau berson arall.

Dyna’r awgrym o dapiau sydd wedi dod i ddwylo Newyddion ITV gan un o ffrindiau’r cyn fownsar sydd am newid argraff pobol ohono, ar ôl iddo’i ladd ei hun ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.

Mae’r tapiau, a gafodd eu gwneud yn ddirgel gan Raoul Moat ei hun, yn dangos ei fod wedi gofyn am gymorth yn gyson rhwng mis Gorffennaf y llynedd ac Ebrill eleni.

‘Dros ben llestri’

“Dw i’n eitha’ ansefydlog yn emosiynol,” meddai. “Dw i’n mynd dros ben llestri o hapus weithiau a dw i’n cael fy nyddiau drwg.

“Mwya’ yn y byd fyddwch chi’n cau pethau allan o’ch meddwl, y mwya’ dideimlad fyddwch chi yn eich . Rydech chi’n cyrraedd pwynt lle nad ydi hapusrwydd nac yma nac acw.”

Wrth sgwrsio gyda’i ffrind, mae’n sôn bod yr heddlu ar ei ôl trwy’r amser. Roedd yn dweud ei fod wedi gosod camerâu cylch cyfyng o amgylch ei gartref – er mwyn gallu profi i’r heddlu nad oedd yn gwneud dim o’i le.

Plisman wedi atal Moat fisoedd ynghynt

Bellach, fe ddaeth yn amlwg bod y plismon a gafodd ei saethu gan Raoul Moat wedi ei atal rai misoedd ynghynt am broblem ynglŷn â fan oedd ganddo.

Yn ôl y cwnstabl David Rathband, roedd yn teimlo dan fygythiad oedi wrth y dyn mawr 37 oed ac roedd ef a chydweithiwr wedi bod yn ofalus wrth ddelio ag ef.

Facebook yn gwrthod cais Cameron

Yn y cyfamser, mae’r wefan gymdeithasol Facebook wedi gwrthod galwadau am ddileu tudalennau lle mae pobol yn cefnogi Raoul Moat ac yn trafod yr achos.

Fe fydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn sgrifennu at y cwmni i ofyn iddyn nhw gael gwared ar y safle, ond, yn ôl Facebook dyw’r ffaith fod sylwadau’n “annymunol” ddim yn rheswm i’w gwahardd.

Llun: Raoul Moat (Gwifren PA)