Mae’r Llywodraeth wedi apelio ar i brifysgolion Cymru beidio â derbyn gormod o fyfyrwyr y flwyddyn nesa’, gan addo cyfyngiadau gorfodol erbyn y flwyddyn wedyn.

Dim ond myfyrwyr sy’n cael cefnogaeth ariannol lawn ddylai gael eu recriwtio, meddai’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, er bod prifysgolion Cymru wedi bod yn mynd y tu hwnt i hynny.

Er nad oes arian ar gael ar gyfer y rheiny gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae’n rhaid i’r Llywodraeth roi arian at gynnal y myfyrwyr ac mae hynny, ar gyfartaledd, yn costio £9,500 y flwyddyn mewn grantiau a benthyciadau i bob un.

Rhybuddio

Eleni, mae’r Cyngor wedi sgrifennu at y prifysgolion yn eu rhybuddio nhw am y problemau; yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth a’r Cyngor yn gweithio ar gynllun i osod cyfyngiadau gorfodol.

Y llynedd, roedd yna gynnydd o 12% yn nifer y myfyrwyr a gafodd eu derbyn i brifysgolion Cymru – llawer mwy na’r cynnydd o 5% yn Lloegr.

Yn ôl Leighton Andrews, mae tair gwlad arall y Deyrnas Unedig eisoes yn cyfyngu ar nifer myfyrwyr ac mae rheoli’r niferoedd yn bwysicach nag erioed yn ystod cyfnod o gyni ariannol.

‘Angen doethineb’

“Mae’r Cyngor Cyllido wedi dweud wrth y prifysgolion bob blwyddyn bod angen doethineb wrth recriwtio myfyrwyr,” meddai.

“Felly mae’r sefydliadau’n gwybod yn iawn am y sefyllfa a ddylen nhw ddim synnu at yr angen i fod yn ddarbodus pan fo arian cyhoeddus yn brin.”

Coleg Ffederal ar y ffordd

Fe gadarnhaodd hefyd y bydd y Coleg Ffederal Cymraeg yn ei le erbyn 2011-12 gyda’r nod o gael 1,000 yn rhagor o fyfyrwyr yn dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2013.

Llun: Leighton Andrews