Mae Gweinidog Amaeth y Cynulliad wedi cadarnhau na fydd y Llywodraeth yn parhau i ymladd yn y llysoedd am yr hawl i ddechrau difa moch daear.
Ond mae Elin Jones wedi dweud ei bod hi’n benderfynol o gael gwared â’r diciâu mewn gwartheg, er gwaethaf penderfyniad y Llys Apêl ddoe.
Roedd y llys wedi penderfynu o blaid yr Ymddiriedolaeth Moch Daear a wnaeth apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Uchel Lys fod gan y Llywodraeth hawl i ddifa’r anifeiliaid mewn ymgais i reoli’r salwch.
Yn siarad yn y Cynulliad, dywedodd Elin Jones fod y penderfyniad wedi ei “siomi,” yn enwedig gan fod y llys wedi derbyn bod y diciâu yn cael effaith ddifrifol ar fyd amaeth, a bod yna angen ei reoli.
Bydd yn ystyried y dyfarniad cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf, meddai.
Cafodd 11,500 o wartheg eu difa yng Nghymru yn sgil effaith y diciâu flwyddyn ddiwethaf.