Bydd £144.8 miliwn yn cael ei roi i wella adeiladau ysgolion ledled Cymru, cyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw am weld ysgolion y wlad yn arloesi yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn galluogi awdurdodau lleol i adeiladu ysgolion newydd, i wella cyfleusterau ysgolion, i ddiwallu anghenion cyfrwng Cymraeg a datblygu nifer o ysgolion ar gyfer anghenion addysgol arbennig.”

Dywedodd y Llywodraeth hefyd fod y buddsoddiad yma yn golygu y byddant wedi gwario dros £700 miliwn ar wella ysgolion dros yr 18 mis diwethaf.

Tair ysgol newydd

Bydd rhan o’r arian yn mynd tuag at adeiladu tair ysgol uwchradd newydd yn y de – yng Nghaerdydd, Penarth a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r buddsoddiad yma “yn dangos yn glir ein hymrwymiad parhaus yma yng Nghymru i wella ac i ddatblygu adeiladau ysgolion,” dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Llun: Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews