Mae 20 o bobl wedi marw a 40 ar goll ar ôl teiffŵn cyntaf y tymor yn y Philipinas.
Mae mwy na hanner pobl ynys ogleddol Luzon sy’n cynnwys Prifddinas Manila heb drydan ac mae disgwyl y bydd yn cymryd dau neu dri diwrnod i adfer y pŵer.
Mae dwsinau o deithiau awyrennau wedi’u canslo ac ysgolion a swyddfeydd y llywodraeth wedi cau.
Llanast yn China a Japan
Eisoes, mae llifogydd trwm sydd ddim yn gysylltiedig â’r teiffŵn wedi creu llanast yn China a Japan. Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i dirlithriadau wedi codi i 41 yng ngorllewin China.
Mae’n debyg fod llifogydd wedi lladd mwy na 100 o bobl yn China hyd yn hyn y mis hwn.
Mae stormydd yn ne a gorllewin Japan wedi lladd un person ac mae tri ar goll. Mae dros 10,000 o bobl wedi’u symud o’u cartrefi ac mae disgwyl mwy o law yn Japan a China.