Mae o leiaf 92 o bobl yn sâl, gydag wyth yn ddifrifol wael, ar ôl anadlu clorin oedd wedi gollwng o silindr yn ardal ddiwydiannol dinas Mumbai yn yr India.
Digwyddodd y ddamwain cyn y wawr mewn porthladd brysur wrth ymyl tai a choleg.
Yn ôl pennaeth yr ysbyty lle mae’r rhai gafodd eu heffeithio’n cael eu trin, mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi anadlu’r nwy yn dioddef o lygaid yn llosgi a phroblemau anadlu.
O’r 92 sydd wedi’u heffeithio – mae 14 wedi cael mynd o’r ysbyty ar ôl derbyn triniaeth.
Fe gafodd adeiladau yn yr ardal eu gwagio dros dro.
LLUN: Mumbai, Deepak Gupta, Flikr