Mae ymdrechion BP i atal yr olew rhag gollwng i’r môr yn Gwlff Mecsico wedi derbyn ergyd ar ôl i swyddogion ddweud bod angen mwy o amser arnyn nhw cyn cychwyn stopio llif yr olew.
Dyw hi ddim yn glir pam fod angen oedi na phryd bydd profion yn cychwyn ar gap newydd gafodd ei osod dros y ffynnon.
Roedd y cwmni olew wedi gobeithio dechrau diffodd falfiau’r cap 75 tunnell yn araf gyda’r bwriad o atal llif yr olew am y tro cyntaf mewn tri mis.
Cynnal profion o bob math
Mae peirianwyr wedi treulio oriau yn cynnal profion i ganfod unrhyw broblemau a gwendidau o amgylch y ffynnon.
Maen nhw wedi cynnal arolygon seismig i greu mapiau o’r garreg ar lawr y môr i ganfod unrhyw beryglon, fel pocedi o nwyon.
Fe allai man ansefydlog o amgylch y ffynnon greu mwy o broblemau pe bai’r olew yn parhau i ollwng rhywle arall ar ôl i’r cap newydd atal y llif.