Bohemians 1 Seintiau Newydd 0

Mae gan y Seintiau Newydd obaith o hyd i fynd ymhellach yn Ewrop ar ôl iddyn nhw golli 1-0 i Bohemians o Iwerddon yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn Nulyn.

Fe ddaeth unig gôl y gêm wedi 66 munud pan beniodd Killian Brennan y bêl i gefn y rhwyd o groesiad gan Paddy Madden i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol i’r Gwyddelod.

Roedd Bohemians wedi bod yn pwyso ar yr ymwelwyr trwy gydol yr ail hanner ac fe allen nhw fod wedi wedi sgorio mwy.

Er hynny, y Seintiau Newydd a ddechreuodd y gêm orau gyda Matthew Berkeley yn dod yn agos at roi’r clwb Cymreig ar y blaen wedi wyth munud.

Roedd yna gyfle arall i Craig Jones hefyd ond fe allai Madden fod wedi sgorio dwy i’r Gwyddelod, gan gynnwys cyfle gwych o chwe llath.

Ar ôl gôl Brennan, fe fethodd Madden gyfle arall, gyda golwr y Seintiau Newydd, Paul Harrison yn arbed ei beniad yn dda.

Y gobaith i’r Seintiau yw y byddan nhw’n fwy ffit erbyn yr ail gêm yr wythnos nesa’ – hon oedd eu gêm gystadleuol gynta’ nhw yn y tymor newydd, ond mae Bohemians wedi bod yn chware’n gyson.