Mae o leia’ 37 o bobl wedi marw yn China ar ôl i law trwm achosi tirlithriadau ar draws y wlad.
At hynny, mae tua 37 o bobl eraill yn dal i fod ar goll yng ngorllewin China yn ôl Asiantaeth Newyddion Xinhua.
Bu fraw 14 o bobl mewn dau dirlithriad yn nhalaith Sichuan tra bod deg arall, gan gynnwys pedwar plentyn ifanc, wedi marw yn nhalaith Hunan. Mae 13 o bobl wedi marw
yn Xiahoe yn nhalaith Yunnan.
Yn y cyfamser mae lefelau mewn cronfa ddŵr ger dinas Golmud yng ngorllewin y wlad wedi dechrau gostwng ar ôl i weithwyr a milwyr cloddio gwyriad i’r dŵr.
Mae 10,000 o drigolion wedi cael eu symud o’u cartrefi wrth i filwyr gludo bagiau tywod a cherrig i atal llifogydd, gyda chamlesi brys yn cael eu cloddio yn ninas Golmud.